Llety bwthyn gwyliau 4 seren ym Mhorthgain, Sir Benfro, Cymru English
Lluest Porthgain Estuary   House   Living Room  
 Cartref Llety Prisiau & Llogi/Archebu Map Tystebau Dolenni Cyswllt Lleol Cysylltwch â ni 
Coastal Picture

Oriel Lluniau



Porthgain, Pembrokeshire

Pentref pysgota bychan a phrydferth ar arfordir gorllewinol Cymru yw Porthgain. Mae gan yr harbwr waelod tywod, ac mae un o draethau gorau Sir Benfro i’w chael dros y penrhyn yn Nhraethllyfn.

Y mae Lluest yn dy-pâr wedi ei adnewyddu’n chwaethus i safon bwthyn hunan-ddarparu 4 seren ac wedi’i leoli yng nghanol pentref arfordirol dymunol.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, y dafarn leol ‘The Sloop’, orielau celf, a bwyty ‘The Shed’ (ennillydd gwobr AA rosette) o fewn tafliad carreg i’r tŷ.

 

Cewch wyliau bythgofiadwy yn Lluest. Dyma'r lle i ddod i fwynhau cerdded llwybr yr arfordir; golygfeydd ysblennydd; bwyd da a gwaith celf a chrefft o safon uchel - y cyfan ynghanol prydferthwch cefn gwlad Sir Benfro.

Mae eich gwyliau yn bwysig iawn - ar ôl blwyddyn o waith caled rydych yn haeddu cael cyfle i ymlacio mewn awyrgylch hardd a chysurus. Dyma pam rydym wedi gweithio'n galed i wneud Lluest yn ail gartref i chi. Rydym yn darparu cysur, glendid a safonau uchel ym mhob agwedd o'r llety. Rydym yn gofyn i bob ymwelydd parchu ein polisi o DIM CŴN nac YSMYGU er lles ein holl westeion.